Trosolwg

Ein hanes

Sefydlwyd yr ysgol ym 1988 fel yr ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf yn hen ardal Gwent. Am ei thair blynedd gyntaf, bu Ysgol Gyfun Gwynllyw yn hen dŷ Ysgol Fabanod Abercarn ond cyn hir aeth yn rhy fawr i'r adeilad. Fel un o'r ysgolion oedd yn tyfu cyflymaf yng Nghymru, roedd angen adeilad mwy ac felly ail-leolwyd yr ysgol sydd bellach wedi'i lleoli yn Nhrefddyn, Pont-y-pŵl. Addysgir disgyblion yr ysgol yn gyfan gwbl yn Gymraeg a dônt o ystod o ysgolion cyfrwng Cymraeg Torfaen, Blaenau Gwent a Sir Fynwy megis Ysgol Gymraeg Cwmbrân, Ysgol Panteg, Ysgol Bryn Onnen, Ysgol Gymraeg Bro Helyg ac Ysgol Gymraeg y Fenni. Y nod yw trochi disgyblion yn y Gymraeg a’u galluogi i gael eu haddysgu’n gyfan gwbl ynddi fel eu hiaith frodorol. Gyda thwf addysg Gymraeg yn lleol, adeiladwyd cyfnod gynradd yr ysgol rhwng 2019 a 2022 ac ers Medi 2022, mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn ysgol 3 i 19 oed, yr ysgol bob oed cyntaf yn Ne Ddwyrain Cymru.

Ein gweledigaeth

Gweledigaeth Ysgol Gymraeg Gwynllyw yw bod yn ysgol gymunedol gynhwysol sydd yn magu dysgwyr uchelgeisiol wrth anelu at ragoriaeth. Parch a gofal yw sail holl waith ein cymuned. Rydyn ni’n credu bod pob dysgwr yn gallu cyrraedd eu llawn botensial ac yn gallu llwyddo. Gwerthoedd craidd yr ysgol yw

 · Cymry

 · Cwrteisi

 · Cyfranogi

 · Cyflawni

 · Cynaliadwy

Prif_swyddogion_-2.jpg

Gweithio i ni

Os ydych yn chwilio am eich swydd addysgu nesaf, beth am gysylltu â ni nawr? Byddwch yn gweithio mewn ysgol wych ac yn rhan o dîm cyfeillgar, cymwynasgar. Mae gennym ni ddiddordeb bob amser mewn clywed gan athrawon brwdfrydig, ymroddedig - anfonwch eich CV atom nawr trwy ein Cronfa Talent Ysgol a dywedwch pa fath o rôl rydych chi'n edrych amdani. Trwy ymuno â'n Cronfa Talent Ysgol byddwn yn gwybod bod gennych ddiddordeb mewn gweithio yma pan ddaw swydd wag yn y dyfodol.

Photo_6553663_DJI_63_jpg_4368542_0_202010975142_photo_original.jpg

Uwch Dîm Arwain

Thumb avatar Mr M Jones
Mr M Jones
Pennaeth
Thumb avatar Miss H Rogers
Miss H Rogers
Dirprwy Bennaeth
Thumb avatar Mr G Jones
Mr G Jones
Dirprwy Bennaeth
Thumb avatar Mrs C Jenkins
Mrs C Jenkins
Pennaeth Cynorthwyol
Thumb avatar Mrs Rh Dickenson
Mrs Rh Dickenson
Pennaeth Cynorthwyol
Thumb avatar Mr G Morris
Mr G Morris
Pennaeth Cynorthwyol

Ymunwch â'n cronfa dalent

Ein Lleoliad

Ein Lleoliad

Ein Lleoliad
Swavesey
Cambs
CB24 4RS

Swyddi

Ein Prosbectws