Hysbyseb Swydd
Pennaeth Cynorthwyol
(cytundeb llawn amser a pharhaol)
Ar gyfer mis Ionawr 2027 (neu cyn gynted â phosib)
Cyflog: L13 - L17 (£70,814 - £78,116)
Mae'r Corff Llywodraethol yn awyddus i benodi Pennaeth Cynorthwyol sy'n arweinydd eithriadol, gyda gweledigaeth glir, uchelgais ddiwyro a chred gref yng ngrym addysg Gymraeg i drawsnewid bywydau pobl ifanc.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgwr rhagorol, yn meddu ar sgiliau arwain a rheoli cryf, ac yn gallu cydweithio'n effeithiol â phob rhanddeiliad. Bydd yn meithrin perthnasoedd cadarn ac yn gosod esiampl broffesiynol a phositif i staff a dysgwyr fel ei gilydd.
Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn medru cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn dangos ymrwymiad amlwg i hyrwyddo a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg o'r safon uchaf.
Os yn dymuno cael sgwrs bellach neu i drefnu ymweliad â’r ysgol cysyllter â Miss Siân Thomas, Clerc y Corff Llywodraethol.
Am fanylion pellach gweler yr hysbyseb ar wefan Cyngor Sir Gâr / E-teach / Addysgwyr Cymru.
Cais i'w gyflwyno ar dudalen swyddi Cyngor Sir Gâr erbyn canol dydd Gwener 2il o Hydref, 2026.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 2il o Hydref 2026 (canol dydd)
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 19eg o Hydref 2026
BYDD YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS YN DESTUN GWIRIAD MANWL GAN GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD (DBS)
Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.