Sefydlwyd Ysgol Henry Richard yn 2014 pan unwyd ysgolion cynradd Tregaron a Llanddewi Brefi yn ogystal ag Ysgol Uwchradd Tregaron. Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer disgyblion o 3 i 16 oed.
Ein gweledigaeth yw sicrhau ysgol gynhwysol sy’n cefnogi pob un dysgwr i lwyddo ar draws ein cwricwlwm mewn amgylchedd hapus, cefnogol ac uchelgeisiol. Mae datblygu a pharatoi dysgwyr i fod yn wybodus a chymryd rhan weithredol yn eu cymunedau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn greiddiol i'r ddealltwriaeth o werthoedd ysgol a gaiff ei hadlewyrchu yn eu dewisiadau yn y dyfodol a gweithredu ein harwyddair "Mewn Llafur Mae Elw" ar bob lefel gymdeithasol a phersonol. Mae llais ein dysgwyr yn hanfodol trwy gydol eu taith yn yr ysgol hon, gan arwain at gwricwlwm cytbwys ac eang er mwyn meithrin annibyniaeth, hyder a gwytnwch ar gyfer paratoi ar gyfer dyfodol disglair.
Mae gan yr ysgol hunaniaeth Gymreig gref sy’n adlewyrchu’r ardal, y disgyblion a’r teuluoedd y mae’n ei gwasanaethu. Drwy’r ‘Cwricwlwm Cymreig’, yn ddyddiol, rydym yn hybu’n weithredol yr iaith Gymraeg, hanes a diwylliant Cymru. Cynigiwn addysg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg yn y rhan helaeth o’r pynciau.
Mae llais ein dysgyblon yn hanfodol trwy gydol ein taith gydom, gan arwain at gwricwlwm cytbwys ac eang er mwyn datblygu, hyder a gwytnwch i baratoi ein disgyblion am ddyfodol disglair.