Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yn gymuned glòs lle mae arwyddair yr ysgol, sef ‘Parch, Parodrwydd, Perthyn’, yn ganolog i bopeth. Dyma gyfle i ymuno ag ysgol lwyddiannus yng nghanol dinas sydd yn tyfu ac sydd yn cynnig amrywiaeth eang o brofiadau academaidd ac allgyrsiol i’w disgyblion o fewn hinsawdd gynhwysol a gofalgar.
Swydd athro/athrawes mathemateg ar gytundeb parhaol yw hon ac edrychir am athro graddedig gydag arbenigedd mewn addysgu Mathemateg ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae’r gallu i ddysgu cyrsiau mathemateg ôl-16 yn fanteisiol ond nid yw’n angenrheidiol. Cynigir cytundeb llawn amser ond ystyrir ceisiadau am gytundeb rhan amser gan ymgeiswyr addas.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag adran brofiadol, brwdfrydig a llwyddiannus. Mae disgyblion yr Ysgol yn cyrraedd safon uchel yn CA4 a CA5. Mae nifer sylweddol o ddisgyblion yn dilyn cwrs Uwch Gyfrannol ac Uwch yn flynyddol a chynhigir cwrs Mathemateg Pellach yn y chweched dosbarth. Mae nifer o fyfyrwyr y chweched dosbarth yn mynd ymlaen i astudio mathemateg yn y brifysgol yn flynyddol.
Telir cyflog ar raddfa cyflogau athrawon.
Ystyrir ceisiadau gan ymgeiswyr addas ar gyfer cytundeb rhan amser
Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.
Mae Ysgol Plasmawr yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.