Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yn gymuned glòs lle mae arwyddair yr ysgol, sef ‘Parch, Parodrwydd, Perthyn’, yn ganolog i bopeth. Dyma gyfle i ymuno ag ysgol lwyddiannus yng nghanol dinas sydd yn tyfu ac sydd yn cynnig amrywiaeth eang o brofiadau academaidd ac allgyrsiol i’w disgyblion o fewn hinsawdd gynhwysol a gofalgar.
Swydd athro/athrawes mathemateg ar gytundeb parhaol yw hon ac edrychir am athro graddedig gydag arbenigedd mewn addysgu Mathemateg ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae’r gallu i ddysgu cyrsiau mathemateg ôl-16 yn fanteisiol ond nid yw’n angenrheidiol. Cynigir cytundeb llawn amser ond ystyrir ceisiadau am gytundeb rhan amser gan ymgeiswyr addas.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag adran brofiadol, brwdfrydig a llwyddiannus. Mae disgyblion yr Ysgol yn cyrraedd safon uchel yn CA4 a CA5. Mae nifer sylweddol o ddisgyblion yn dilyn cwrs Uwch Gyfrannol ac Uwch yn flynyddol a chynhigir cwrs Mathemateg Pellach yn y chweched dosbarth. Mae nifer o fyfyrwyr y chweched dosbarth yn mynd ymlaen i astudio mathemateg yn y brifysgol yn flynyddol.
Telir cyflog ar raddfa cyflogau athrawon.
Ystyrir ceisiadau gan ymgeiswyr addas ar gyfer cytundeb rhan amser
Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.
Ysgol Plasmawr is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.