Mae’r Ysgol yn frwd i benodi uwch gynorthwyydd gwarchod ar gytundeb hyd at diwedd Awst 2026 yn y lle cyntaf i ymgymryd â rôl o warchod ac arwain dosbarthiadau yn absenoldeb athrawon. Edrychir am ymgeisydd egnïol a hyblyg fydd yn medru ymdopi a’r her o gefnogi athrawon wrth gynllunio, paratoi ac arwain gwersi yn absenoldeb yr athrawon arferol.
Croesawir ceisiadau gan athrawon cymwys.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gyd-weithio’n agos gydag rheolwr systemau ac gweithdrefnau yr Ysgol i drefnu rhaglen warchod wythnosol a chydweithio’n agos gydag Arweinwyr Pwnc yr Ysgol wrth gynllunio a pharatoi gwersi priodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ac ysgol lwyddiannus sydd wedi ymrwymo i ddatblygu ei staff yn broffesiynol.
Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.
Manylion cyflog - Graddfa 6 pwynt 19-25 (£32,217 - £36,385) PRO RATA ar sail 32.5 awr yr wythnos 39 wythnos y flwyddyn(tymor yn unig) *Yn aros dyfarniad cyflog
Mae Ysgol Plasmawr yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.