Loading...

Croeso gan y Pennaeth ac Dirprwy Bennaeth

Mawr obeithiaf y cewch fwynhad o bori drwy ein gwefan lle cewch flas ar yr holl gyfleoedd a gweithgareddau darparwn i’n disgyblion. Ddathlwch gyda ni llwyddiannau ein disgyblion gweithgar a thalentog. Ymhyfrydwn yn ethos ofalgar yr Ysgol lle mae pwyslais ar les ein disgyblion yn sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd ac yn cyflawni eu potensial. Mae brwdfrydedd, egni ac ymroddiad staff yn adlewyrchu’r ymrwymiad i addysg cyfrwng Cymraeg. Mae bod yn ddwyieithog yn agor drysau i ddiwylliant cyfoethog yn y ddwy iaith, ac yn ehangu cyfleoedd i'n disgyblion yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Ymhyfrydwn yn sefydlu ein hysgol a’i le yng Nghasnewydd, Dinas ar dwf ,ac mae holl aelodau presennol yr ysgol yn ymwybodol o’n cyfrifoldeb i sicrhau llwyddiant Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn yr unfed ganrif ar hugain.