Loading...

About us

Ers ei sefydlu yn 1974 bu Ysgol Gyfun Llanhari yn un o gonglfeini addysg cyfrwng Cymraeg y De. Rhoddir pwyslais mawr ar les ac anghenion yr unigolyn ac ymfalchïwn yn y berthynas agos rhwng staff a disgyblion.



Ym mis Medi 2012 fe welwyd Ysgol Llanhari yn datblygu i fod yn ysgol sy’n darparu addysg i ddisgyblion o 3 mlwydd oed hyd at 19 mlwydd oed. Mae hon yn ddatblygiad arloesol, ac ymfalchiwn yn y ffaith bod yr Awdurdod Lleol wedi buddsoddi arian sylweddol i adnewyddu block yn yr ysgol fydd yn gartref i 240 disgybl cynradd yn ei llawn dwf. Mae’r potensial ar gyfer sefydliad addysgol o’r fath yn ddi-ben draw ac edrychwn ymlaen at ddyfodol llwyddianus iawn lle ceir disgyblion profiadu hollol unigryw.



Anelwn at greu unigolion sy’n meddu ar sgiliau angenrheidiol ar gyfer bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain, a rhown bwyslais mawr ar eu dwyieithrwydd naturiol. Mae gan yr ysgol dîm o staff sy’n arloesi mewn agweddau dysgu ac addysgu ac fe welir ffrwyth eu llafur mewn gwersi amrywiol a chyffrous.



Ein dymuniad yw i bob unigolyn fwynhau ei brofiad addysgol a chael cyfle i ddatblygu’n berson cyflawn. Drwy gynnig cyfleoedd amrywiol i ddisgyblion ddatblygu’n ddysgwyr annibynnol, datblygir yr ymdeimlad o hunanwerth a hunan-barch sydd mor hanfodol i ddysgu llwyddiannus.



Mae’r ysgol yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth Bwrdd Llywodraethu gweithgar a rhieni llwyr ymroddedig. Gyda’n gilydd, rwy’n siwr, fe welwn Deulu Ysgol Llanhari yn ffynnu a llewyrchu mewn amryw o ffyrdd yn y dyfodol.



Meirion Stephens

Pennaeth



Working For Us

If you're searching for your next teaching post, why not contact us now? You'll be working at a great school and be part of a friendly, helpful team. We're always interested to hear from enthusiastic, committed teachers - send us your CV now via our School Talent Pool and say what sort of role you're looking for.

Awards